YNNI ADNEWYDDOL YNG NGHYMRU
Ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ddod allan, mae bwriad Llywodraeth ddatganoliedig Cymru wedi cael ei amlinellu ers sawl mlynedd bellach. Felly faint o effaith mae hyn wedi ei gael ar y testun o ynni adnewyddol yng Nghymru?
Heb ffurfiau cymhelliant swyddogol, mae hi'n wir i ddweud fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod dim llawer o brosiectau ynni adnewyddol newydd yn digwydd yng Nghymru o gwbwl, er gwaethaf ymdrech y Llywodraeth (Cymru) i gael mwy. Gweler Ffigwr isod, sydd yn dangos y plot yn lefelu allan yng nghanol 2020.
Yn wir, os edrychwn yn bennaf ar ynni gwynt tirol, mae ambell i brosiect sydd wedi cael caniatad cynllunio heb gael eu cwbwlhau, sydd yn gofyn y cwestiwn -a oes mwy y gall y Llywodraeth ei wneud i hybu mwy o brosiectau i gael eu cwbwlhau?
Yng nghrombil y broblem (neu broblemau!) mae dau brif reswm am hyn. COVID ydi'r cyntaf, efo llawer iawn o gwmniau yn gafael yn dynn yn eu waledau. Mae cael cwmniau i fuddsoddi mewn unrhyw fath o brosiectau yn anodd iawn ar hyn o bryd. Yr ail broblem siwr iawn yw Brexit. Prin iawn fydd cwmni yn gallu fforddio gwneud buddsoddiadau hir-dymor fel 20-25 blynedd pan does neb yn saff pa ffordd mae Boris yn mynd i fynd ym mhen diwedd y flwyddyn, a sut fydd y cytundeb terfynnol yn edrych o ran marchnata efo'r DU. Fe ddywedodd dyn doeth rhyw bryd "paid sefydlu yr un cwmni sy'n ddibynnol ar gymorthdal y llywodraeth", a mae hyn yn wir. Un peth sy'n sicr -yw bydd bob amser rhyw fath o lemon yn y fowlen ffrwythau.
Ond, er dweud hyn i gyd, mae ambell reswm i fod yn optimistaidd yn sgil hyn i gyd. Mae adroddiad diweddaraf Ynni Morol Cymru (2020) yn dangos llun lliwgar iawn, efo degau o gwmniau yn buddsoddi yn ardaloedd fel Sir Fôn, Doc Penfro, Abertawe a Chaerdydd. Mae cwmniau fel Nova, Orbital2, Sabella a Verdant Power wedi sicrhau safleoedd i lawnsio eu tyrbeiniau, ac mae hyn yn dod a swyddi lleol i ardaloedd gwledig ac arforol Cymru. Mae Blackfish hefyd wedi agor swyddfa newydd yng Nghymru, yn eithaf agos i Sir Fôn.
Roedd hi'n dda clywed Mark Drakeford yn dweud yr wythnos dwetha "our ambition [is] to build a thriving industry generating well paid jobs and business opportunities in Wales. We want to continue to attract developers from around the world to our Welsh waters".
Un sefydliad sydd yn hybu hyn yng Nghymru yw Morlais. Mae ganddynt uchelgais o gynnwys 240MW o bwer yn y môr ger Sir Fôn. Mae hyn yn ddibynnol ar ambell i gyfyngiadau yn anffodus, ac mae systemau hybu technolegau newydd yn y broses o gael beth sy'n cael ei alw yn IPPA (Innovation Power Purchase Agreement), lle bydd cwmniau yn cael taliadau ychwanegol am yr egni a gynhyrchwyd -hyd at rhyw swm penodol. Mae hyn yn sicr yn hybu cwmniau bach i ymgartrefu yng Nghymru, ac fe fydd yn sicr yn newyddion da os gaiff y penderfyniad y golau -gwyrdd.
Mae yna hefyd dipyn yn digwydd o ran safleoedd ynni gwynt morol yng Nghymru (ac yn Lloegr a'r Alban). Mae datblygiadau y Mor Celtaidd yn sicr am helpu cwmniau ger ardaloedd De-Orllewinol Cymru. Mae'r cwmniau hyn yn debygol o fod yn gwmniau Haen 3 (cyflenwyr arbenigol/specialist suppliers) i raddau, efo ychydig yn debygol o fod yn Haen 2 (cyflenwyr pennaf/principal suppliers), ond dim llawer o Haen 1 (Prif gontractwyr/prime contractor) gan fod rhain yn debygol o fod dramor. Mae hi yn anffodus nad yw y Llywodraeth yn rhoi isafswm cynnwys lleol ar gontractiau ynni gwynt y mor, gan y bydd hyn an annog cwmniau i sefydlu yng Nghymru neu Brydain ac yn debygol o gyflogi yn lleol.
Comentários